Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amheu na byddwch mor deg a dangos mai rheol y Testament Newydd, a'r Hen hefyd, ydyw, fod i ni dderbyn plant i'r eglwys yn ddirgel, a bod holl ddybenion Bedydd yn cael eu cyrhaeddyd yn y ffordd hono; a dangos yn mhellach pa mor bell y gwyrais i oddiwrth y rheol hono tuag eithafion. Yr ydych chwi yn fy anog i fynu cael barn Mrs. Williams ar y pwnc; ond yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon diduedd i roddi barn deg ar y mater. Yr ydych yn fy anog i fod yn ochelgar a chymedrol yn fy nodiadau ar bersonau. Er hyny, dywedasoch chwi am A. Jones; 'yr wyf yn credu yn gryf ei fod wedi gwneud yr hyn sydd o'i le yn ddiamheu.' Arferwn feddwl ein bod i farnu am bersonau wrth eu hymddygiadau, ac os gwnaethant yn ddiamheu bethau sydd yn feius ac o'u lle, y dylem ymdrechu eu hargyhoeddi o hyny, ac os na lwyddwn, nad ydym i ddal cysylltiad â hwynt; ond dywedwch chwi nad wyf fi i wneud felly. Cymerwch ofal, byddwch gymedrol, hyny yw, os na chredaf fi fod amcanion pobl sydd a'u gweithredoedd yn hollol ddrwg yn amcanion da, yr wyf fi yn myned i eithafion. Dymunwn wybod trwy eich llythyr nesaf, pa un ai wrth eu hymddygiadau, neu ynte wrth eu hamcanion yr ydym i farnu personau? Mi a feddyliais wrth eich llythyr mai eu hamcanion yw eich rheol chwi i farnu am danynt, ac y dylwn inau briodoli amcanion da ddynt, er fod eu hymddygiadau yn hollol ddrwg