Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddiamheuol; ac os na wnaf hyny, yr wyf yn euog o fyned i eithafion, ac o lefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau. Dysgwyliaf i chwi roddi i mi well eglurhad ar bethau na rhywbeth fel yna. Ein cofion caredicaf at Mrs. Jones, a derbyniwch yr unrhyw eich hunan.

Ydwyf, yn parhau yn gymaint cyfaill i chwi ag erioed,

W. WILLIAMS."

O.Y. "Nid ydych yn dywedyd gair am eich bwriad i ddyfod i'n Cymanfaoedd. Ymdrechwch ddyfod, a threfnwch eich taith fel y galloch fod am un noswaith yn ein ty ni."

Nid oes angen prawf eglurach o gyfeillgarwch pur o bobtu, na'r hyn a ddangosir i ni drwy gyfrwng y llythyr blaenorol.

Edrychasom ar ein gwrthddrych Parchedig hyd yma yn nghyflawniad ei waith fel pregethwr, ac yn nglŷn â symudiadau cyhoeddus ei enwad yn gyffredinol; ond o hyn i ddiwedd y bennod hon, nyni a edrychwn arno fel gweinidog a bugail yn ei gylchoedd cartrefol. Gwnawn hyny yn ngoleuni cynwys papyr gwerthfawr a ddarllenodd yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla, yn nghyfarfod sefydliad y Parch. T. E. Thomas yn Nghoedpoeth, Medi 24ain, 1887:—"Mae enw Mr. Williams wedi ei argraffu yn ddwfn yn hanes ein gwlad a'n cenedl, ac yn enw y cyfeirir ato yn ddiau gyda pharch diledryw, ac edmygedd mawr am oesau eto i