Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyfod. Nid oes yn ngweddill yn awr neb y gellir yn briodol eu galw yn gydoeswyr iddo. Ychydig o'r rhai a'i gwelsant, ac a'i clywsant, sydd yn aros heddyw ar y maes. Dichon fod ysgrifenydd y llinellau hyn, ac un neu ddau eraill yn eithriad yn hyn o beth. Adwaenwn Mr. Williams fel dyn er y flwyddyn 1827, pan nad oeddwn eto ond deng mlwyddd oed. Yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi hyny, dygwyd fi i gyfleusdra i gael bod o dan ei weinidogaeth yn Rhosllanerchrugog; a phan yn un ar bymtheg oed, derbyniwyd fi ganddo ef yn gyflawn aelod o'r eglwys barchus hono. O'r pryd hwnw hyd adeg ei ymadawiad i Liverpool, cefais ef fel tad a chyfaill, a pharhaodd y gydnabyddiaeth drwy ystod ei arosiad byr yn Liverpool, ac ar ol ei ddychweliad i hen faes ei lafur hyd derfyn ei oes. Wrth hyn, fe wel y darllenydd fy mod wedi cael braint y chwenychasai llawer sydd yn awr yn fyw fod wedi ei chael. Nid ydwyf byth wedi maddeu i mi fy hun am fy niofalwch a'm hesgeulusdod dybryd, yn peidio defnyddio y cyfleusdra neillduol a gefais i fanteisio ar yr agosrwydd a'r cysylltiad agos a fu rhyngwyf â'r fath ddyn rhagorol. Clywais ganddo bregethau cynhyrfus, mwynheais lawer o gyfarfodydd eglwysig dan ei weinidogaeth, a threuliais lawer o amser yn ei gwmni buddiol ac adeiladol, ac o herwydd fy niofalwch a'm hesgeulusdra dirfawr, y mae arnaf gywilydd hysbysu fy mod yn un o ddisgyblion Williams o'r Wern, er y