Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfrifasid hyny yn anrhydedd uchel gan lawer, ac felly yn ddiau yr wyf finau fy hun yn ei chyfrif. Er mai fel pregethwr neu efengylydd y rhagorai Mr. Williams, a phregethu a enillodd iddo y fath enwogrwydd fyth barhaol; eto yr oedd yn weinidog a bugail da a gofalus, yn enwedig gellid edrych arno felly wrth gymeryd eangder maes ei lafur i ystyriaeth. Talai ymweliadau achlysurol â'r holl aelodau, yn enwedig y rhai cystuddiol, profedigaethus ac oedranus; ac amcanai at adael argraff ddymunol a daionus ar ei ol yn ei holl ymweliadau. Rhoddai bwys mawr yn ei bregethau a'i ymddyddanion, ar yr angenrheidrwydd o feithrin crefydd bersonol, fel prif gymhwysder i ddefnyddioldeb dros Dduw, ac fel safon i gymeradwyaeth yn ngolwg dynion. Pan yn cyfeirio at hyn, dywedodd unwaith, 'Ni bydd gan neb ffansi o'r leg futton oreu oddiar ddysgl fudr—yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig, arferai bwyll, doethineb, a ffyddlondeb dihafal.

Cymerai ei lywodraethu yn ei farn i raddau go bell, gan natur y cyhuddiad a ddygid yn erbyn y troseddwr, a'i farn bersonol am gymeriad cyffredinol y cyhuddedig. Gallai beri i'r fflangell ddisgyn, yn drom, pan y barnai fod yr achos yn galw am hyny, yn enwedig pan y canfyddai ysbryd anhywaeth yn yr hwn a ddysgyblid. Ond ei nod ef yn wastad fyddai ceisio edrych ar yr ochr dyneraf i'r achos. Safai yn gryf yn erbyn diarddeliad, os