Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd diwygiad neu adferiad mewn un modd yn bosibl. Rhoddai i'r cyhuddedig fantais pob amheuaeth yn ei achos. Dywedai, gwell genyf oddef yn yr eglwys bump o ragrithwyr, na throi un Cristion allan o'r eglwys. Rhoddaf yma enghraifft o'i waith a'i ddull yn gweinyddu dysgyblaeth. Yn yr ymdrech gyffredinol a wnaed i ddileu dyledion addoldai yr Annibynwyr yn Nghymru, bu Mr. Williams yn Lloegr yn casglu am fisoedd at yr amcan hwnw. Yn ystod ei absenoldeb, dygwyddodd i ryw chwaer led afrywiog ei thymherau ymrafaelio gyda chymydoges iddi, ac yn ystod yr ymrafael, bygythiodd hi a'r haiarn smwddio. Yn y cyfarfod parotoad cyntaf wedi dychweliad Mr. Williams adref, hysbyswyd ef gan un o'r swyddogion, fod achos y chwaer i gael ei ddwyn yn mlaen am ei bygythiad â'r haiarn smwddio. 'Oh,' ebai yntau, Gwell i ni gymeryd pwyll, ac amser, y mae ymladd â hararn smwddio yn beth anarferol i'w ddwyn o flaen yr eglwys.'

Gohiriwyd i gael amser i weled yr effaith a gawsai yr hysbysiad hwnw o'i eiddo ar y droseddwraig. Atebodd y dyben yn dda, oblegid enciliodd y wraig waedwyllt hono o'r gyfeillach, ac yr oedd ei hymadawiad yn waredigaeth fawr i'r eglwys. Wrth dderbyn aelodau newyddion, arferai fanyldra anghyfffredin, pan yn egluro iddynt amodau y Cyfamod Eglwysig.' Gwasgai arnynt yr angenrheid-