Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd am gydymffurfiad manwl a'i holl fanylion. Yr wyf yn ofni fod cryn ddiofalwch yn awr mewn llawer lle yn nglŷn â'r mater pwysig hwn. Llywodraethid Mr. Williams yn hyn hefyd i ryw fesur, gan yr ystyriaeth o oedran, gwybodaeth, sefyllfa, a chymeriad blaenorol yr ymgeisydd. Cofiaf byth y cynghor byr, ond tra chynwysfawr, a roddodd wrth estyn i mi ddeheulaw cymdeithas—' Ymarfer lawer, fachgen, â gweddi ddirgel.' Nid yw y cynghor ond byr, a chynghor a roddir yn bur gyffredin i rai wrth eu derbyn. Ond dywedodd Mr. Williams ef y tro hwnw gyda'r fath deimlad a difrifoldeb, fel nad yw tri ugain mlynedd wedi ei ddileu o'm cof. Rhoddai siars dra difrifol, pan y dygwyddai rhai fod yn ymadael o'r ardal, ac yn newid eglwys. Yr oedd gwr ieuanc unwaith yn gadael y Rhos i fyned i faelfa berthynol i ewythr cyfoethog iddo, a drigai yn y Brifddinas, ac wedi rhoddi iddo luaws o gynghorion buddiol, diweddodd drwy ddweyd, 'Gwell i ti fod yn golier duwiol yn dy glocs yn y Rhos yma, na bod yn wr boneddig digrefydd yn dy goach yn Llundain.' Wylai mam y gwr ieuanc yn chwerw wrth wrando yr ymadroddion hyny yn cael eu llefaru wrth ei mab, a hyny am y gwelai ynddo arwyddion gwrthgiliad. Goddefer i mi eto gyfeirio at ddull cyffredin Mr. Williams o gario yn mlaen y gyfeillach eglwysig. Yn aml, cynygid gan rai o'r frawdoliaeth, ryw fater ysgrythyrol, athrawiaethol, neu ymarferol i ymddyddan arno. Weith-