Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau dymunai brawd neu chwaer arno bregethu ar ryw destun neillduol, neu ar bwnc o athrawiaeth arbenig, a braidd bob amser, treulid y gyfeillach mewn rhyddymddyddan ar y mater hwnw, a phregethai yntau arno y Sabbath dilynol. Yr oedd arferiad fel hyn yn sicrhau gwell sylw i'r bregeth, ac yn deffroi mwy o ddyddordeb yn ei chynwysiad. Heblaw hyny, yr oedd y cyfryw ddefod yn fanteisiol i fagu yr eglwys yn holl egwyddorion crefydd. Teimlai ambell frawd a chwaer yn llawen iawn, pan glywent Mr. Williams, yn ei bregeth y Sabbath, yn cyfeirio at ryw ddywediad a ddywedasant hwy yn y gyfeillach, pan yn ymdrin â'r pwnc dan sylw. Sicrhai y drefn hon o gadw cyfeillach gydymdeimlad rhwng y pregethwr a'r bobl, a rhwng y bobl a'r pregethwr. Cofiwyfi'r pwnc o weddi gael ei osod i lawr un tro, i fod yn destun ymdriniaeth yn y gyfeillach eglwysig, sef gweddi ddirgel, a gweddi gyhoeddus. Treuliwyd un gyfeillach i ymddyddan ar ddull a threfn gweddi gymdeithasol. Condemniai Mr. Williams feithder mewn gweddi gyhoeddus. Fodd bynag, yr oedd yn bresenol un brawd a adnabyddid fel un diarhebol am ei feithder wrth weddio yn gyhoeddus, ond prin iawn ydoedd efe o ran dim eneiniad oedd arno yn ei holl gyflawniadau cyhoeddus. Pan glywodd efe Mr. Williams yn beio gweddiau hirion, tybiodd y gallai efe ei orchfygu ar dir yr Ysgrythyr, drwy ddywedyd fod gweddi Jacob wedi parhau drwy y nos. 'Wel, ïe,