Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

onide,' meddai Mr. Williams, 'Ond cofia di mai gweddi bersonol oedd hono. Gweddia dithau am ddeng munyd yn y capel, a dos adref, a gweddia drwy y nos fel Jacob os myni.' Diau i'r gwr hwnw ddeall oddiwrth y wers uchod, mai un peth yw gweddio yn faith yn gyhoeddus, ac mai peth arall yw gweddio yn faith yn y dirgel. Camgymerir y naill am y llall yn aml. Hyderaf fod yr hyn a grynhoais yma o'm hadgofion am Mr. Williams, a thuedd ynddynt i roddi rhyw syniad aneglur i'r darllenydd o'r hyn ydoedd efe fel gweinidog a bugail, yn enwedig i'r rhai hyny na chawsant erioed gyfleusdra i'w adnabod yn bersonol. Nid yn unig yr oedd Mr. Williams yn weinidog a bugail rhagorol, ond gellid ar amrai gyfrifon edrych arno fel math o esgob yn yr enwad Annibynol yn Nghymru, a hyny oblegid y dyddordeb dwfn, a'r pryder dwys ac eang a ddangosai, ac a deimlai dros yr holl eglwysi yn y Dywysogaeth. Bu yn offerynol yn llaw Duw i blanu llawer o eglwysi, ydynt erbyn heddyw yn llwyddianus, a'r rhan fwyaf o honynt yn alluog i gynal gweinidogaeth eu hunain."

Yn y Wern yn 1803 yr hauwyd yr hedyn Annibynol Cymreig cyntaf yn y cylch hwn, yr hwn a eginodd ac a dyfodd, nes myned yn bren mawr a changhenog, a'i geingciau yn cerdded i wahanol gyfeiriadau cylchynol, ac o'r cyfryw, gellir enwi mewn modd arbenig, yr eglwysi a ganlyn:—