Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brymbo, Rhosllanerchrugog, Llangollen, Rhuabon, Wrexham (Queen Street), Rhosymedre, Trefor, Fron, Bwlchgwyn, Coedpoeth, Ponkey, Talwrn, Brynteg, Nant, Rhostyllen a'r Gwersyllt. Gyda phriodoldeb y gall yr eglwysi uchod gyfeirio at Eglwys y Wern, gan ddywedyd, "Hon yw yw ein mam ni oll." Yn amser Mr. Williams, yr oedd yn ei eglwys dri o ddiaconiaid, y rhai oeddynt yn sefyll yn amlwg yn mhlith eu cydswyddogion, a hyny o herwydd dysgleirdeb eu cymeriad, cryfder eu synwyr cyffredin, a'u ffyddlondeb digyffelyb yn nghyflawniad eu gwaith, ac yn y rhai yr ymddiriedai Mr. Williams yn drwyadl—sef Mr. Joseph Chaloner yn y Wern, Mr. Richard Pritchard yn y Rhos, a Mr. Robert Cadwaladr yn Harwd. Nis gellir enwi Harwd heb fod llawenydd a diolchgarwch yn llenwi ein calonau, wrth weled fod hon a fu yn llesg, ac yn agos i ddiflanu, wedi myned yn ddwy eglwys lewyrchus. Dyma y rhandir helaeth o'r wlad ag y bu y seraph—bregethwr o'r Wern yn cyhoeddi efengyl Crist ynddo, a hyny mewn anedddai, ysguboriau, ystafelloedd, ac yn y meusydd agored, flynyddau cyn adeiladu y rhan luosocaf o'r capelau a enwyd, na meddwl erioed am danynt. Trwy ymdrech mawr o helbulon yr enillwyd i ni y fath etifeddiaeth deg, a bydded bendith Duw yn gorphwys Ar randir ein hetifeddiaeth ni holl ddyddiau y ddaear." Rhoddwn yma eto, yr hyn a ddywedir gan y Parch. R. Roberts, Rhos,