Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Williams, yn mhlith pobl ei ofal:—"Nid oedd ymweliadau bugeiliol mewn cymaint bri yn mysg yr Ymneillduwyr, ac yn enwedig yr Annibynwyr yn ei amser ef. Yr oedd ei deithiau mor fynych a meithion, ei lafur yn cychwyn achosion newyddion yma a thraw mor fawr, a'i egni ddiddyledu capeli mor ddiorphwys, a chylch ei weinidogaeth mor eang, yn peri nas gallai ymweled yn fynych â phobl ei ofal. Ond ni omeddai fyned pan y byddai angen am dalu ymweliad â'r rhai a garai mor fawr, oblegid yr oedd efe yn gwir ofalu am y praidd. Gwnai sylw arbenig o blant mewn teuluoedd. Gofalai am ddyfrhau yr egin grawn. Ymddygai yn serchog a thadol at wasanaethyddion, gan ddangos fod ganddo wir ofal am eu buddianau tymhorol ac ysbrydol. Mae rhai cynghorion a roddodd i'r dosbarth yma yn parhau i gyflawni eu gweinidogaeth mewn teuluoedd hyd y dydd hwn. Rhoddai gyfarwyddiadau i rieni ar pa fodd i ddwyn eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Clywsom gan hen bobl yr ardal rai o'i gyfarwyddiadau iddynt, ac y maent yn werthfawrocach na gemau. Cyfranai i'r tlawd, rhybuddiai yr esgeuluswyr, dyddanai y claf, a chysurai y methedig. Yr oedd mor llawn o ddoethineb a thynerwch, fel y cyfranai i holl aelodau y teulu yn ol eu hangen. Croesawid ef fel angel Duw ar aelwydydd ei bobl. Dydd y farn yn unig a ddengys ddylanwad da Mr. Williams yn nheuluoedd ein cenedl."