Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cefais rai o'r ffeithiau a ganlyn gan y diweddar Mr. Samuel Rogers, Nant, hen bererin anwyl ac aeddfed, a fu farw ychydig amser yn ol, ac efe yn dair neu bedair a phedwar ugain mlwydd oed. Yr oedd ei edmygedd o Mr. Williams tu hwnt i fesur. Ychydig o eisteddleoedd oedd yn nghapel y Wern y pryd hyny, ac am flynyddoedd lawer ar ol hyny, eithr llenwid y llawr gan mwyaf a meinciau, ac yr oedd yno ystof hefyd i gynhesu y capel, a mawr fyddai y crynhoi o amgylch hono pan y byddai yr hin yn oerfelog. Ar nosweithiau yr wythnos yn y gauaf, byddai y praidd bychan yn glwm am hon. Ond yn yr haf eisteddent yma ac acw yn ol eu cyfleusdra, neu eu dymuniad. Nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ofalus am brydlondeb yn dyfod i foddion gras, a byddai yn gyffredin wedi pasio yr amser arno cyn y cyrhaeddai y capel. Marchogaeth y byddai efe fynychaf, a hyny am fod ei ffordd yn mhell. Deuai i mewn yn bwyllus, ac wedi cyrhaedd y set fawr, rhoddai ei ffon o'i law, tynai ei gob uchaf oddi am dano, ac wedi taflu cipdrem ar y defaid oedd eisoes yn y gorlan yn dysgwyl eu bugail, eisteddai yn ei gadair, a phlygai ei ben mewn gweddi ddystaw am fendith Duw ar y cyfarfod. Yna rhoddai benill i'w ganu, darllenai a gweddiai yn fyr ac i bwrpas. Wedi hyny, gofynai i'r brodyr cryfaf ddweyd gair, yr hyn a wnaent yn rhwydd a pharod bob amser. Taflai yntau air rhyngddynt fyddai yn oleuni, yn