Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gysur, ac yn adeiladaeth i'r saint, ac yr oedd yn hynod o fedrus a deheuig i guro yr hoelion adref. Wedi hyny, drachefn, cymerai ei ffon, gan ei gosod drwy ei freichiau ar draws ei gefn, a cherddai yn hamddenol i'r llawr at y defaid a'r wyn gwanaf. Edrycher ar y bugail hwn, gwna gynyg teg at ddwyn yr wyn yn ei fynwes, ac i goleddu y mamogiaid. Symudai rhwng y meinciau gan ofyn adnod, neu air o brofiad, neu benill, neu sylw wedi ei gofio o'r bregeth y Sabbath blaenorol. Nid oedd neb yn cael dianc. Rhoddai wedd deuluol ar y gyfeillach, a byddai yntau ei hun fel tad tyner yn cyfranu i gyfreidiau y teulu yn ddoeth a medrus. Gwyddai amgylchiadau ei bobl mor dda, a meddai adnabyddiaeth mor ddwfn o'r galon ddynol, a gwyddai drwy brofiad beth oedd ymdrechu a llygredd yn ei galon ei hun, fel yr oedd ynddo gymhwysder neillduol i oleuo, cynorthwyo, dyddanu, a chadarnhau y credinwyr. Wedi rhoddi i bawb ei ddogn galwai ar frawd i ddiweddu y gyfeillach. Tystiai yr henafgwr parchus a nodwyd y byddai y cyfarfodydd hyn yn fynych yn fath o nefoedd ar y llawr, ac y byddai ynddynt yn cael ei wroli a'i arfogi i ymladd â Satan, cnawd, a byd. Bellach, maent wedi cyfarfod mewn gwlad lle na bydd y gelynion a grybwyllwyd, na'r un gelyn arall byth yn eu poeni.

Yr oedd yr elfen wleidyddol yn gymharol dawel yn Nghymru yn ei ddyddiau ef, ac ni wyddid