Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nemawr am y Radicaliaeth sydd erbyn heddyw mor amlwg yn y byd a'r eglwys hefyd. Teyrnasai gweinidogion y cyfnod hwnw fel breninoedd yn eu heglwysi, ac anfynych iawn y byddai neb yn cwyno ei fod yn cael ei yspeilio o'i ryddid a'i hawliau. Barnai aelodau y dyddiau hyny, mai eu dyledswydd a'u braint hwy oedd byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, ond tybia llawer yn ein dyddiau ni, eu bod wedi eu galw i lywodraethu. Er fod yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal, wedi cynyddu gydag ef, yr oeddynt yn meddu y parch dyfnaf iddo, a'r ymddiriedaeth lwyraf ynddo, eto dywedir ei fod mor deg a boneddigaidd, ac yn gweithio allan egwyddorion ein Cynulleidfaoliaeth yn ymarferol mor ddibartïaeth ac esmwyth, fel na feddyliodd neb yn maes ei lafur erioed ei fod yn chwenych y blaen." Yr oedd y llywodraeth mor esmwyth, fel na wyddid ei bod. Teyrnasai Mr. Williams mewn cyfiawnder, doethineb, cariad, a phwyll, ac am hyny bu heddwch mawr.

Er ei fod yn Annibynwr argyhoeddedig a chryf, eto yr oedd yn hynod rydd a diragfarn at enwadau eraill. Y mae Dr. Owen Thomas, Liverpool, yn ei gofiant ardderchog i'r diweddar Barch. John Jones, Talsarn, yn cyfeirio at hyn, ac yn dywedyd ei fod "Yn un nodedig o rydd a diragfarn, heb wybod dim, gan belled ag y gallwn ni ganfod, am deimlad sectol," ac ystyriai Dr. Thomas mai "rhagorfraint fawr" ydoedd iddo ddyfod i gyffyrddiad