Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

âg ef yn y dref hono." Er dangos mor ryddfrydig ydoedd efe at enwadau eraill, ni raid ond hysbysu ddarfod iddo addaw myned i bregethu i'r Primitive Methodists yn y Beast Market, Wrexham, ond pan ddeallodd y cyfeillion Annibynol yn y dref hono am ei fwriad, anfonasant ddau genad ato i'r Talwrn i ddeisyfu arno yn daer i alw ei addewid yn ol, a pheidio a myned i'r Beast Market. Buont yn ymliw âg ef yn hir, ond nid oedd dim a ddywedent wrtho yn llwyddo i beri iddo newid ei gwrs. Ei destun yno ydoedd, "Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes," &c. Arddelwyd y gwirionedd o'i enau yn Wrexham y tro hwnw mewn modd nerthol iawn. Yn mhen blynyddoedd ar ol hyny. daeth gweinidog perthynol i'r Ranters i Wrexham i areithio, ac yn nghwrs ei araeth, dywedodd, mai o dan bregeth o eiddo Mr. Williams yr argyhoeddwyd ef; a thybir yn lled sicr mai o dan y bregeth hono yn y Beast Market y cymerodd hyny le. Yr oedd un o'r enw Mrs. Mary Griffiths yn byw yn y Frondeg tua'r adeg yma, yr hon oedd yn fodryb chwaer ei dad i Mr. B. Harrison, C. C., Coedpoeth, ac i'r hon yr oedd merch yn gwasanaethu ar y pryd yn Wrexham; yr hon pan yno a ymunodd â'r Ranters, ond pan ddeallodd ei mam dduwiol hyny, teimlodd i'r byw, a phwysodd y peth mor drwm ar ei meddwl, nes ei bod mewn pryder dwys iawn yn nghylch ei merch, ond cadwasai y cwbl yn ei mynwes ei hun hyd nes nad allasai ymatal yn