Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwy, ac ymaith a hi, gan fynegu ei thrallod i Mr. Williams. Dywedodd yntau, "Y maent yn rantio tua'r nefoedd, ac ni allwn ninau yr Annibynwyr, ddysgwyl lle gwell; felly Mari, gad iddi." Ac ar hyny, tawelodd meddwl y fam drallodus, ac ni chafodd achos i fod yn athrist mwy yn nghylch y mater hwnw. Yr oedd Mr. Williams yr un mor ryddfrydig a pharod i gynorthwyo pob enwad gartref yn gystal ac oddicartref, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a anfonwyd i ni gan y Parch. J. Rowlands, Talsarn—"Yn wyneb prinder gweinidogion i orphen cyfarfod pregethu perthynol i'r Wesleyaid yn y Rhos, ceisiwyd gan Mr. Williams bregethu y noson olaf gydag un o weinidogion yr enwad parchus hwnw. Pregethai y gwr dyeithr yn nghyntaf, yn ddoniol a hyawdl. Wedi iddo orphen, esgynodd Mr. Williams i'r areithfa, a phregethodd "bregeth y mamau," fel y gelwid hi. Un o'r pethau dynodd ei sylw gyntaf wedi dechreu pregethu, ydoedd gweled un o'i wrandawyr cyffredin yn y Rhos, yn eistedd ar ymyl yr oriel, ac yn gwrando yn y modd mwyaf astud, ac wrth fyned yn mlaen taflai ei lygaid yn awr a phryd arall ar ei hen wrandawr, a pharhai yntau i wrando yr un mor astud, ac yn y man gwelai ddagrau yn rhedeg o'i lygaid, a llawenhai yr hen weinidog wrth weled un o'i wrandawyr cyson dan y fath deimladau gobeithiol. Daeth y dyn ato ar derfyn y gwasanaeth. Cyfarchai Mr. Williams ef yn gar-