Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edig, a datganai ei lawenydd o herwydd iddo ei weled yn gwrando mor astud, a than y fath dimladau. "Yn wir," ebai y dyn, "Yr oeddwn i yn teimlo yn angerddol hefyd. Yr oedd y gwr dyeithr yna wedi pregethu mor rhagorol o'ch blaen, fel yr oedd arnaf ofn yn fy nghalon i chwi fethu cael hwyl, ac yr oeddwn yn wylo o lawenydd wrth eich gweled yn cael nerth." Dengys yr amgylchiad uchod, nid yn unig ryddfrydigrwydd a nerth Mr. Williams, fel pregethwr, ond hefyd, sel un o'i wrandawyr cyson dros anrhydedd ei weinidog mewn adeg a ystyriai efe oedd iddo yn awr danllyd o brawf, ac wylai o lawenydd wrth ei weled yn dyfod drwy ei brawf mor ogoneddus.