Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cychwyn "Boarding School" yn ei chartref Mr. Williams a'i deulu yn symud i fyw o'r Talwrn i Fryntirion Bersham—Gweddi effeithiol o'i eiddo wrth ymadael

YN y bennod flaenorol, cawsom olwg ar Mr. Williams yn nghyflawniad ei waith fel gweinidog a bugail yr eglwysi. Trwy garedigrwydd yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, galluogir ni yma i weled ei ymddygiad tadol yn ei deulu, a chariadlawn at bawb a drigent yn ei dŷ. "Bu'm yn was i'r anwyl Barchedig William Williams o'r Wern a'i deulu yn y flwyddyn 1831, ac am ran o'r flwyddyn 1832. Arferai godi am chwech ar y gloch yn yr haf, ac am saith yn y gauaf. Darllenai am awr a haner cyn ei foreubryd bob dydd. Yn ddioedi ar ol boreubryd, ymgynullem oll i gegin y teulu i'r addoliad teuluaidd—Mr. a Mrs. Williams, y ddwy ferch, Eliza a Jane, a'r ddau fab, James a William, a'r ddwy forwyn, Margaret a Beti, ac Wmffra y gwas. Eisteddai Mr. Williams wrth ben y bwrdd, a darllenai ran o'r Ysgrythyr yn bwyllog ac ystyriol. Gwnelai sylw eglurhaol a chymhwysiadol yn aml ar ol Yn darllen, yna gweddïai yn syml ac yn daer. Saesonaeg y cynelid yr addoliad boreuol, a hyny am fod Mrs. Williams a'r plant oll yn fwy cynefin â'r aeg hono nag oeddynt â'r Gymraeg. Diolch heddyw am Saesonaeg eglur a dirodres Williams o'r Wern. Yr oedd yn hawdd i'r gwas a'r forwyn