Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeall am ba beth y gweddïai, a thra rhagorai ar y Saesonaeg cyffredin oedd i'w glywed y pryd hwnw o Rhosllanerchrugog i Benarlag. Wedi yr addoliad boreuol, treuliai Mr. Williams ei amser yn ei fyfyrgell i ddarllen a myfyrio hyd haner dydd. Arferai ysgrifenu prif sylwadau ei bregeth ar lechen ddeublyg ar ffurf llyfr, ac wedi ei chau, byddai y bregeth yn ddiogel ar y ddau wyneb mewnol y rhagymadrodd a'r casgliadau ar y ddau wyneb allanol. Cedwid hwynt yno hyd foreu Llun, ac os byddai yn eu gweled o werth, ysgrifenai hwynt ar ddernyn o babyr bychan, a golchid y llechen er gwneuthur lle i ysgrifenu y gweledigaethau ar gyfer y Sabbath dyfodol. Yn y Gymraeg y dygid yn mlaen yr addoliad teuluaidd nos Sabbath. Wedi i'r addoliad fyned drosodd, byddai Mr. Williams yn holi y plant a'i wasanaethyddion am waith y dydd. Un tro holai ei fab William beth oedd y pwnc a drinid yn yr ysgol, ac hefyd, am ba beth y gweddiwyd, ac y pregethwyd yn ystod y dydd; ac a oedd rhyw sylw wedi aros yn ei gof ef? Nid oedd y bachgen ond o wyth i naw oed ar y pryd, ac nid oedd wedi dal na chofio dim oll a fu dan sylw yn ystod y Sabbath hwnw—dim, pa fodd bynag, fel ag i allu adrodd dim o'r hyn a wrandawodd. Yr oedd gan y plant fules fechan i'w cario i'r capel, a lleoedd eraill. Ymdrechai y tad argraffu ar feddwl y bachgen, fod ganddo ddeall a chof, ac y dylasai eu harfer, a'i fod tra heb