Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofio dim felly, yn darostwng ei hunan yn debyg i'r fules fechan oedd yn eu cario hwy i'r capel. Dywedai y tad, 'Pe y bawn yn myned a hi i'r capel, ni wnai hithau ond dyfod oddiyno heb ddeall na chofio dim.' 'Wel, ïe, tada,' meddai y bychan, 'byddwn yn debyg iddi, os gwnai hi beidio a brefu, yr oeddwn i yn ddystaw yno.' Ar hyny, chwarddodd Mrs. Williams, ac hefyd ninau oll, a bu dipyn yn galed ar Mr. Williams wrth geisio llywodraethu ei hun. Trwy yr arholiadau hyn ar yr aelwyd, dyfnheid, ac argreffid yn y meddwl y pethau fuont o dan sylw yn y cysegr. Wrth adgofio y dyddiau hyny, yr wyf yn teimlo fod yr addoliad teuluaidd ar aelwyd Williams o'r Wern, yn arbenig ar nos Sabbathau, yn gyfryw fel y caem ynddo y gwin goreu yn olaf yn aml.

aml. Daliasom grwydryn unwaith, yr hwn oedd wedi ymwthio drwy ffenestr—ddrws i'r ysgubor, a bu yn cysgu yn y gwellt dros y nos, heb fod neb perthynol i'r ty yn gwybod dim am dano. Pan aethom yno yn y boreu, gan nad oedd wedi cwbl oleuo, dychrynwyd ni yn ddirfawr. Rhedodd William, y bachgen ieuengaf, i hysbysu ei dad o'r ffaith. Daeth Mr. Williams yno yn bwyllog iawn, a gofynodd amrai gwestiynau i'r dyn yn hynod o dyner a charedig, ac wedi cael boddlonrwydd yn ei gylch, rhoddodd gynghorion buddiol iddo, ac aethpwyd ag ef i'r ty i gael cwpanaid o botes cynhes. Ymadawodd y crwydryn druan, dan ddiolch a bendithio pawb a