Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phob peth perthynol i'r teulu hwnw. Yr oedd ffair y gwanwyn yn ffair fawr a phwysig iawn yn Wrexham driugain mlynedd yn ol. Parhai am o ddwy i dair wythnos. Byddai gwneuthurwyr a gwerthwyr nwyddau masnachol Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru yn dyfod iddi i brynu nwyddau at yr haf. Arferai arddangosfeydd ddyfod i'r ffeiriau crybwylledig, a mawr oedd y cyrchu iddynt. Daeth yno ddwy yn ystod fy arosiad i gyda 'gwr Duw.' Trwy fod Mr. Williams o gartref ar daith bregethwrol tua'r Bala a Dolgellau ar y pryd, gofynais i Mrs. Williams am ryddid i fyned i'r ffair, a hyny wrth gwrs ar Ddydd Llun pawb, fel y gelwid ef, a chaniatawyd i mi fy nghais. Wrth syllu ar newydddeb golygfeydd yr arddangosfa, arosais yn rhy hir yn ffair gwagedd y bobl ieuainc, tebyg i Vanity fair John Bunyan, fel erbyn i mi gyrhaedd adref, yr oedd yn naw ar y gloch. Ac i wneuthur fy ynfydrwydd yn fwy atgas yn fy ngolwg, ac yn waeth, dygwyddodd fod Mr. Williams wedi dyfod adref yn gynar y prydnawn hwnw, ac yr oedd ef a'r ferlen yn dra lluddedig ar ol eu taith. Wedi deall ei fod ef wedi cyrhaedd adref, aethum ato i'r ystabl yn euog nodedig. Gofynodd yn ddifrifol iawn i mi, Ai dyma'r amser yr wyt ti yn dyfod o'r ffair?' Dywedais inau mai fel hyn y dygwyddodd, a bod yn ddrwg iawn gennyf am y tro, ac os y gwelai yn dda ganiatau i mi, y gwnawn i orphen ymgeleddu a phorthi y ferlen. 'Wel, gan