Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dy fod ti fel ene, mi gei wneud, ond pe y buaset ti o ysbryd arall, buaswn yn ysgrifenu boreu yfory at dy hen dad duwiol, i'w hysbysu fy mod yn ofni dy fod yn ymwylltio.' Ac wedi hyny aeth pob peth drosodd. Ceryddai yn ddifrifol, grasol, ac enillgar. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar heddyw am ei gerydd i mi dros driugain mlynedd yn ol, 'Cured y rhai cyfiawn fi yn garedig, a cheryddant fi, ac na thored eu holew penaf hwynt fy mhen na fy nghalon.' Ymwelai â chleifion yr eglwysi wrth alwad, ac nid arferai dreiglo o dŷ i dŷ yn ddibwrpas, ac i wag siarad. Ymweliadau Gwr Duw' ydoedd ei ymweliadau ef â phobl ei ofal. Byddai yn rhydd a chartrefol nodedig yn mysg ei swyddogion a'r holl aelodau. Bum unwaith mewn wylnos yn y Rhos gyda Mr. Williams. Ychydig iawn oedd wedi dyfod yn nghyd, a hyny am fod clefyd peryglus yn y ty, ac nid oedd neb o'r rhai a ddaethent i'r cyfarfod yn fedrus ar ddechreu canu. Dechreuodd yr hen ddiacon ffyddlon Mr. Richard Pritchard ganu penill, a hyny heb roddi y geiriau allan yn gyntaf. Rhoddwch benill allan Richard, gael i ni ganu gyda chwi,' meddai Mr. Williams. Dyrysodd hyny y dechreuwr yn hollol, ac nis gallodd fyned yn mhellach. Wrth fyned tuag adref, dywedodd Mr. Williams, 'Wel, dechreuwr canu sal iawn ydych chwi, Richard.' Yr wyf gystal a chwi bob dydd,' meddai Mr. Richard Pritchard, yn llon ddigon. Yn Llan-