Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brynmair y bu tro go ryfedd yn fy hanes i,' meddai Mr. Williams. 'Yr oedd y capel yn orlawn bobl, a'r fynwent wedi ei gorchuddio gan y dyrfa fawr, a minau yn y ffenestr. Yr oedd y dechreuwr canu oddifewn i'r capel, a phan ddechreuodd y dôn, cymerais inau hi megys o'i enau drwy y ffenestr, er mwyn i'r gynulleidfa oddiallan ei deall, a bu yno ganu mawr arni." Dywedodd Mr. Richard Pritchard dan wenu, Yr ydych fel Seintiau y dyddiau diweddaf, bydd y rhai hyny yn gwneuthur gwyrthiau rhyfedd draw yn mhell tua Merthyr Tydfil, ond yn gwneuthur dim tua'r Rhos yma.' Ar hyny cydchwarddodd y ddau, canys yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol ac anwyl iawn. Cydgerddwn dro arall o'r gyfeillach grefyddol o'r Rhos gyda Mr. Williams. Ar y ffordd gwelai ymladdfa ffyrnig a chywilyddus yn myned yn mlaen cydrhwng dau ddyn ieuainc a adwaenai yn dda. Penderfynodd yn y fan gyfryngu rhyngddynt. Gofynodd i un o honynt, 'Aros di, ai nid hon a hon yw dy fam di?' Wedi cael atebiad cadarnhaol gan y bachgen, dywedodd, Dear me, beth pe bai dy fam dduwiol yn dy weled yn y drefn yma?' drefn yma? Erfyniodd yn daer ar y bachgen i fyned adref, ac wedi hir berswadio, cychwynodd, ond gwaeddai y lleill ar ei ol, gan ddanod iddo ei lwfrdra. Dywedodd y bachgen wrth Mr. Williams, Y maent yn gwaeddi llwfryn arnaf Mr. Williams.' 'Na hidia mo honynt'