meddai yntau, 'tyred di gyda mi.' Ac er mor anhawdd oedd hyny i'r gwr ieuanc, eto, bu yn ddigon gwrol a doeth i fyned i ganlyn 'Gwr Duw,' nes ei fod allan o olwg ei wrthwynebydd, a'r hen gwmni drygionus. Yn awr, nid dyn cyffredin a allasai ymyryd yn y fath gweryl, heb i hyny beryglu llwyddiant ei amcan, a lleihau ei ddylanwad, ond llwyddodd ef. Yn wir, yr ydoedd ef yn fath o Ynad Heddwch mewn byd ac eglwys. Yr oedd gwynfydedigrwydd y tangnefeddwyr (peacemakers) yn eiddo arbenig iddo ef. Er fod dros driugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oeddwn yn ei wasanaeth, yr wyf heddyw yn diolch am fanteision a bendithion y tymhor a dreuliais dan gronglwyd yr enwog William Williams o'r Wern." [1] Gellir ychwanegu yr un gyffelyb werthfawr dystiolaeth o eiddo eraill a fuont yn ngwasanaeth yr un gwr, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o ysgrifau dyddorol y Parch. J. Thomas, Leominster (gynt o'r Wern) ar "Robert Jones Y Stryd," y rhai a welir yn y Dysgedydd am Chwefror a Mehefin, 1875:—'Yr oedd y blynyddoedd y bu R. Jones yn ngwasanaeth Mr. Williams yn gyfnod arbenig yn ei fywyd—yn gyfnod yr edrychai yn ol arno fel rhan ddedwyddaf ei oes y soniai lawer am dano, ac yr ymffrostiai ychydig
- ↑ Yn fuan wedi ysgrifenu yr uchod, bu yr Hybarch Humphrey Ellis farw ddydd Iau, Medi 7fed, 1893, yn ei 83 mlwydd o'i oedran.