Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/231

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo. Nid oedd dim yn sirioli ei feddwl yn fwy na'i introducio i weinidog dyeithr fel hen was i Mr. Williams o'r Wern, ac ni welsom yr un nad oedd yn dda ganddo gael ysgwyd llaw âg ef. Y mae yn gof genym ddweyd wrtho unwaith, Y buasai yn dda gan fy nghalon pe buasai pawb sydd yn proffesu eu bod yn ngwasanaeth Iesu yn teimlo mor falch o'i wasanaeth ag y teimlai ef ei fod wedi bod yn ngwasanaeth Williams o'r Wern.' 'Yr oedd Mr. Williams yn feistr da, da iawn,' oedd yr ateb, ond yn right siwr, y mae yr Iesu yn llawer gwell. Mr. Williams oedd y meistr tebycaf iddo a welais erioed; ond y mae yr Iesu mawr wedi gwneud mwy drosof, a rhoddi mwy i mi nag a fedrai ef, er cystal oedd. Y mae yn rhaid i mi ddweyd yn dda am Mr. Williams, ac yn llawer iawn gwell am yr Iesu." Meddyliais ar y pryd, a llawer gwaith wedi hyny, fod cysylltiad penau teuluoedd crefyddol â'u gwasanaethyddion yn gyfleusdra nodedig iddynt i ddyrchafu crefydd, ac mor ddymunol y buasai pe y gallasai pob gwas a morwyn edrych yn ol ar gyfnodau eu gwasanaeth mewn teuluoedd crefyddol gyda y fath barch i'w meistr ac i'w grefydd ag yr edrychai ef ar gyfnod ei arosiad yn nheulu Mr. Williams. Bu y cysylltiad hwnw yn fantais anmhrisiadwy iddo fel crefyddwr yn mhob ystyr. Y diwrnod cyntaf wedi ei ddyfodiad i'r Talwrn, daeth Mr. Williams ato cyn iddo gychwyn allan ar ol ciniaw, a dywedodd,