Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert, cais dy Feibl, a 'dos i'r ysgubor (yr hon oedd ar ganol cae ychydig oddiwrth y ty), a chymer awr ar ol dy giniaw bob dydd i'w ddarllen, ac na hidia ar yr awr hono, beth fyddo eisiau ar y merched yma. Tydi pia hi, a gwna yn fawr o honi i ddarllen dy Feibl.' Mynych yr adroddai y ffaith uchod gyda'r dyddordeb mwyaf. Byddai, yn ei gylch, yn cael cymeryd ei ran yn y ddyledswydd deuluaidd, a byddai Mrs. Williams yn bur aml, meddai, yn ei gadw ar ol yn yr ystafell i wastadhau y camsyniadau fuasai wedi eu gwneud yn y darllen, ac yr oedd parch yn ei galon iddi hyd ei fedd am wneuthur hyny. Un boreu yr oedd yn darllen Rhuf. xiii. 8, ac fel hyn dygwyddodd iddo ddarllen, 'Na fyddwch yn nyled neb o ddimai, ond o garu bawb eich gilydd,'—o ddimai yn lle o ddim. Wedi gorphen y ddyledswydd, a'r teulu fyned allan, ceisiodd Mrs. Williams ganddo droi i'r adnod a'i darllen drachefn, ac yntau yn llai hunanfeddianol na'r tro cyntaf, am y gwyddai fod gwall yn rhywle, a ddarllenodd yr un modd yn union drachefn. 'Nid fel yna y mae Robert,' ebai Mrs. Williams, 'Ond na fyddwch yn nyled neb o ddim.' 'Ie, yn right siwr, meistres bach, felly y mae hefyd.' 'Wel, Robert,' ebe hithau, Y mae llawer wedi gwneud mwy o gam â'r Ysgrythyr na'r un a wnest di y boreu hwn, ond y mae meddwl y darlleniad cywir yn well na meddwl dy ddarlleniad di hefyd. Y mae o ddim yn llai nag o ddimai. Dro arall