Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darllenai Mat. vi. 19: Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear.' Swniai y gair'iwch' yn 'uwch,' gan roi sain u pur eglur i'r i. Cafodd ei athrawes ychydig mwy o drafferth y tro hwn i'w gael i weled ei gamsyniad, ond fe'i deallodd, ac fe'i cofiodd. Daeth yn ddarllenwr rhwydd a deallus ar ol hyn, ac yn wir fe ddylasai, wedi bod flynyddau dan ddysgyblaeth; ac y mae yr engreifftiau a nodwyd yn rhoddi rhyw syniad am ei natur a'i manylwch. Yr oedd pwys yn cael ei roddi, nid yn unig ar ddarllen y Beibl, ond ar ei ddarllen yn iawn. Byddai yn aml yn adrodd y wers a roddodd Mr. Williams iddo ar weddïo yn gyhoeddus. mae dysgu dynion i weddïo yn sicr yn beth pur bwysig, ac yn bur anhawdd i'w wneud. Y mae digon o eisiau yn aml, ond bydd genym ofn gwneud mwy o ddrwg i'r gweddïwr nag o les i'r weddi. Y mae y wers hon mor nodweddiadol, fel y bydd yn dda gan y darllenydd ei chael, hyd y gallom, yn ngeiriau yr athraw a'i rhoddai, a'r dysgybl a'i derbyniai:—Yr oeddwn un boreu,' ebai R. Jones, 'wedi defnyddio enw y Brenin Mawr yn rhy aml yn fy ngweddi, nid oeddwn yn gwybod hyny ychwaith ar y pryd. Yn mhen dwy awr daeth Mr. Williams ataf i'r ysgubor, yn siriol iawn ei feddwl, ac wedi eistedd i lawr ar swp o wair, dywedodd, "Wel, Robert, gorphwys ychydig, a gâd i ni ymddyddan tipyn am grefydd; ac wedi i mi droi y gwaith o'm llaw, ac eistedd,