Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedai, 'Beth feddyliet ti pe cymerem weddi a gweddio yn destun i ymddyddan arno?' Boddlawn iawn yn right siwr, Mr. Williams, ebai finau, ac yn dechreu meddwl hefyd fy mod wedi gwneud camgymeriadau y boreu hwnw mewn rhywbeth na wyddwn i ar y ddaear beth. A ddarfu i ti sylwi erioed,' meddai, 'ar weddi yr Arglwydd, fel y gelwir hi? Y mae yn cael ei galw yn weddi yr Arglwydd, cofier, nid am fod yr Arglwydd Iesu yn ei harfer yn llythyrenol a dieithriad, fel y mae wedi ei chofnodi yn ei weddiau ei hun. Nid oes genym yr un enghraifft iddo ei defnyddio felly gymaint ag unwaith. Y mae yn cael ei galw gweddi yr Arglwydd, ni feddyliwn, am ei bod yn gynllun addas o drefn a materion gweddi a ddysgodd yr Arglwydd i'w ddysgyblion. A ddarfu i ti sylwi erioed nad yw enw y Brenin Mawr yn cael ei ddefnyddio ynddi ond unwaith o gwbl, a hwnw yr enw sydd yn dynodi y berthynas anwylaf ac agosaf sydd rhyngddo a'i bobl—"Ein Tad".' Y mae llawer iawn wrth weddio—o ddiffyg ystyriaeth yn ddiau yn defnyddio yr enw goruchel yn rhy aml fel geiriau llanw—yn aml ddweyd Ein Tad nefol, i aros i gael rhywbeth arall i'w ddweyd; a byddaf yn ofni y bydd hyny yn un ffordd y cymerir ei enw yn ofer gan ddynion.' 'Wel, Mr. Williams anwyl, feddyliais i erioed am y peth yna o'r blaen; ac yr wyf yn gweled y peth yn right yr enw