Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oleu,' meddwn inau. 'Wel, machgen i,' meddai yntau, 'ti weddiaist ti yn dda iawn heddyw y bore, ond yr oeddwn i yn teimlo dy fod yn arfer yr enw goruchel yn rhy aml o lawer. Mi wn y cymeri di yr awgrymiad yn garedig a diolchgar; a chan ein bod yn ymddyddan am weddio, y mae yn beth. gweddus iawn i ni bob amser drefnu ein mater ger ei fron, er yr edrych efe heibio i lawer o annhrefn lle y byddo calon ddidwyll a gwresog. ydym yn trefnu ein ceisiadau gerbron dynion, a dylem drefnu ein gweddïau yn sicr gerbron Awdwr pob trefn; trefnu ein cyfaddefiadau, ein herfyniadau, a'n diolch; a threfnu y cwbl yn y geiriau mwyaf priodol; nid amgylchu môr a thir, a dweyd pob peth ar draws ac ar hyd, ac heb ddweyd ond ychydig neu ddim wrth Dduw, wedi y cwbl. Mae yr Iesu, sylwa di, yn anghymeradwyo gweddiau hirion gweddiau yr amleiriau. Y mae y weddi yn myned yn hir, fynychaf, am nad yw wedi ei threfnu. Lle y mae gwir deimlad o'r angen, gellir dweyd y neges mewn amser byr, ac mewn geiriau byr. Y mae llawer yn nacâu myned i weddi yn gyhoeddus am yr ofnant na fedrant weddio yn ddigon hir: craffa di, nid yw yr Arglwydd erioed wedi achwyn gymaint ag unwaith fod gweddi neb yn rhy fyr, ond y mae yn cwyno yn aml fod gweddiau llawer yn rhy hir. Peth gwrthun iawn hefyd yw rhoddi hysbysiadau (informations) o wahanol bethau i'r Hollwybodol; yr wyf wedi