Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teimlo lawer gwaith fod dynion pan yn gwneud felly am wneud show o'u gwybodaeth yn fwy na dim arall; a buom yn meddwl droion pe buasai pagan o Affrica yn dygwydd clywed llawer Cristion yn gweddio, y buasai raid iddo feddwl mai rhyw Dduw anwybodus iawn yw ein Duw ni. Dylid bod yn wyliadwrus iawn, cofier, rhag defnyddio geiriau sathredig ac isel mewn gweddi. Gallant weithiau daro yn hapus ar y teimlad mewn adegau hwylus a chynhyrfus, ond, yn y cyffredin, dolurio teimlad y gynulleidfa a darostwng y gweddiwr a'r weddi a wnant. Gad di i'r teimlad didwyll bob amser ddethol y fendith, a gofala fod y deall yn dethol y geiriau mwyaf priodol a gweddus i'w cheisio gan Dduw. Enaid y weddi yw enaid yn teimlo. Bellach y mae yn rhaid i mi fyned; dos dithau at dy waith, a meddwl lawer am y pethau hyn." Felly y terfynodd cyfeillach yr ysgubor y boreu hwnw, wedi rhoddi cyfeiriad da i feddwl y llanc, a gadael argraff arno barhaodd yn fyw yn ei brofiad hyd ddydd ei farwolaeth.

Dengys yr uchod mai meistr ardderchog oedd ein gwrthddrych, ac mai bendigedig yw y gweision a'r morwynion hyny y disgyna eu llinynau mewn lleoedd mor hyfryd a manteisiol er meithrin pob rhinwedd a daioni ag ydoedd y teulu dan sylw. Gan fod yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth, mewn llythyr gwerthfawr o'i eiddo atom, yn cyfeirio at yr arferiad o arholi y gwasanaethyddion