Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nhy Mr. Williams, am waith y Sabbath, dod- wn yr eiddo yntau yn y benod hon, "Gwrandewais Mr. Williams amryw droion. Yr wyf yn meddwl fod dros driugain mlynedd er y clywais ef yn pregethu yn nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin. Aeth amryw o ieuenctyd o ardal y Drewen un boreu Sabbath yno i'w wrando. Bu raid iddo bregethu yn y ffenestr. Ei destun oedd, 'Ac âr yr annuwiol sydd bechod, aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, pa faint mwy pan yr offrymant gyda meddwl drwg.' Dywedodd fod yr annuwiol yn. pechu wrth aredig, sef wrth gyflawni y gwaith mwyaf di-brofedigaeth i bechu gydag ef o bob gwaith. Gall dyn weddio o un cwr i'r cae, nes myned i'r cwr arall, ond fod yr annuwiol yn pechu wrth aredig, ac wrth bob gwaith arall hefyd. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, y mae yn pechu wrth weddio. Wel, meddai y dyn, os wyf yn pechu wrth weddio, mae yn well i mi beidio a gweddio o gwbl. O, na, yr wyt yn pechu mwy wrth beidio, yr wyt felly yn rhoddi dau gam i uffern yn lle un. Wel, os wyf fi yn pechu wrth weddio, ac yn pechu mwy wrth beidio, beth a wnaf? I'r fan yna yr wyf am dy gael, ac y mae yr ateb wrth law, 'Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi.' Pregethai mor nerthol. y waith hono, nes y crynai y rhai a wrandawent arno. Nid wyf yn cofio gwell oedfa erioed. Wedi hyny, cafwyd cymundeb nodedig o effeithiol, Y