Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd hwnw y clywais gyntaf hanes y ferch ieuanc hono, yn rhedeg dros y mynydd i gyfarfod ei chyfeillion mewn rhywle dirgel i gofio Angeu y Groes. Yr oedd dynion y pryd hyny yn hela crefyddwyr i'w cosbi. Cyfarfu hithau â dau o'r erlidwyr, a gofynasent iddi, I ba le yr oedd hi yn myned? O, ebe hi, 'brawd i mi sydd wedi marw, a heddyw y maent yn darllen ei ewyllys, ac yr wyf finau yn myned i glywed beth y mae ef wedi ei adael i mi.' Trydanodd yr hanesyn hwnw yr holl dorf. Pwy ond yr Arglwydd a allasai gyfarwyddo y ferch ieuanc hono i ateb mor ddoeth. Clywais Mr. Williams yn pregethu mewn cymanfa yn Nhrelech,[1] a hyny ar ddiwrnod gwlawog anghyffredin. Yr oedd y gweinidogion a'r bobl oll yn ddigalon nodedig. Bu Mr. Rowlands, Cwmllynfell, dri mis yn parotoi pregeth ar Gyfiawnhad, ac yr oedd dysgwyl mawr am y bregeth, a phregethwr rhagorol ydoedd Mr. Rowlands hefyd, ond yn y gymanfa hono, yr oedd yn llai nag ef ei hunan. Pwnc Mr. Williams y tro hwnw oedd, Mawredd Duw'—Mawredd naturiol Duw, a Mawredd moesol Duw. Traethail bethau gogoneddus ar y naill adran a'r llall o'i bwnc pwysig. Cyfododd yr oedfa hono y gymanfa i enwogrwydd anghyffredin, ac nid ä

byth yn anghof gan neb oedd yno yn gwrando.

  1. Ar y dyddiau Mehefin 6ed a'r 7fed, 1832, y cynaliwyd y Gymanfa hon,