Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oeddwn yn yr ysgol yn y Neuaddlwyd, aethum i a brawd arall ar daith i bregethu, ac ar un Sabbath yr oeddwn yn ardal y Wern, ac yn pregethu yno. Dygwyddodd i mi fod yn aros yn y Rhos gydag un o aelodau yr eglwys Annibynol yno. Ar ol yr oedfa gwelwn ferch ieuanc yn rhedeg ar fy ol, ac yn gofyn yn ostyngedig iawn, a wnawn i ddywedyd wrthi un pen o'r bregeth, yr hwn a fethodd ei gael yn ei chof. Bydd fy meistr,' meddai, 'yn gofyn i mi heno am y testun a'r bregeth, ac yr wyf yn cofio y cwbl ond un pen i'r bregeth.' Synais at y ferch ieuanc, a theimlais barch mawr iddi. Erbyn deall, morwyn i Mr. Williams ydoedd y ferch hono. Gwynfyd na bai pob pen teulu yn arfer defod o'r fath gyda phob gwas a morwyn. Diau y ceid ffrwyth lawer oddi- wrth y cyfryw arferiad."

Soniasai y ddiweddar Miss Sarah Jones, o Blas Buckley, yn aml am rinweddau amlwg a lluosog y teulu hwn, ac am y manteision crefyddol uwch- raddol a dderbyniodd ei hunan, yn ystod y pum' mlynedd y bu hi yn gweinyddu fel athrawes i blant Mr. Williams. Clywsom ninau ein hunain yr henafgwr parchus, Mr. William Jones, Rossett, yr hwn yntau hefyd a fu yn was i Mr. Williams, yn adrodd ddarfod iddo weled ei feistr lawer tro yn dyfod o'r ysgubor a'i wynebpryd fel angel Duw, gan danbeidrwydd y dysgleirdeb a lewyrchai ynddo, ac ychwanegai mai nid rhywbeth wedi iddo ym-