Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wisgo ynddo, fel mewn gwisg Sabbathol, ydoedd y difrifwch a'i nodweddai ar amserau yn yr areithfa, ond rhywbeth oedd yn amlwg iddynt ar ei wyneb- pryd yn y ty er's dyddiau, yr hyn oedd iddynt hwy yn arwydd sicr o Sabbath anghyffredin iawn. Pa ryfedd ei fod mor effeithiol wrth draddodi ei genadwri dros Dduw yn y cyhoedd. Mynegwyd i ni gan Mrs. Mason, Manchester, yr hon sydd yn henafwraig grefyddol a deallus, ac yn ferch i Mr. Joseph Chaloner yr henaf, y byddai Mr. Williams yn pregethu ar ambell nos Sabbath mor ddifrifol, nes effeithio cymaint arni hi, fel y ciliodd ei chwsg oddiwrthi lawer noswaith, ac nis gallasai ymryddhau oddiwrth y pethau sobr a wrandawsai ganddo. Gallai ef ymlid ar ol pechadur i'w noddfeydd gau, gan ei ddangos iddo ei hunan yn ffynhonell o bob dychryn ac arswyd ar wahan oddiwrth Grist. Yn yr adeg yr oedd hen waith plwm Minera yn llawn bywiogrwydd, cyn iddo sefyll am lawer blwyddyn wedi hyny, yr oedd y gweithwyr yn derbyn cyflogau rhagorol am gwaith, ond o ddiffyg ystyriaeth a darbodaeth briodol, yr oedd llawer o honynt yn gwario eu hamser a'u harian am oferedd. Un tro, yr oedd dau ddyn adnabyddus yn yr ardal, wedi treulio wythnos gyfan mewn gloddest annuwiol. Cytunent â'u gilydd wrth ymadael bob nos, yn mha le yr oeddynt i gyd-gyfarfod dranoeth, a pha amser ar y dydd. Pan ddaeth nos Sadwrn, dywedodd