Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o honynt wrth y llall, 'Yr wyf fi wedi blino ar y spri yma'— Felly finau,' meddai ei gyfaill,—'I ba le yr awn ni foru?' 'Wel, beth a fyddai i ni fyned i'r Wern boreu foru i wrando beth fydd gan Mr. Williams i'w ddweyd?' Felly y bu, aethant yno. Dygwyddodd (os dygwyddiad hefyd), fod Mr. Williams yn y bregeth y boreu Sabbath hwnw yn darlunio yn gywir ddynion, wedi treulio eu hamser, fel yr oeddynt hwy wedi bod yr wythnos flaenorol. Cawsent eu hunain druain, wyneb yn wyneb, megys a'u hymddygiadau annuwiol y dyddiau o'r blaen. Yr oedd y bregeth iddynt hwy yn llosgi megys ffwrn, a'r lle yn annyoddefol iddynt. Rhoddasent eu penau i lawr, gan guddio eu hwynebau mewn cywilydd, a meddylient fod rhywun wedi adrodd eu hanes i'r pregethwr, ac felly fod yr holl gymydogaeth yn gwybod am danynt. Wrth fyned allan o'r oedfa, gofynodd un o honynt i un o'r aelodau, 'Pwy a fu yn dweyd am danom ni wrtho?' 'Beth ydych yn 'Beth ydych yn ei feddwl.' 'Wel, yn 'doedd ef yn ein darlunio ni, ac yn dweyd sut yr oeddym wedi bod yn berffaith gywir.' 'Wel, un fel yna yn hollol ydyw Mr. Williams,' meddai y dyn yr ymddyddanai âg ef. Hoffasent allu ymguddio eu dau o ŵydd y pregethwr y boreu hwnw. Beth a ddaeth o honynt ar ol hyny, nis gwyddom—gobeithiwn y goreu am danynt. Teithiai Mr. Williams yn y cyfnod hwn, yn ddibaid yn achos yr efengyl. Gwyddai beth oedd