Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myned drwy wynt a gwlaw, oerni a gwres, yn y gauaf a'r haf, gan deithio y wlad o Gaergybi i Gaerdydd, ac o Lan Andras i Dŷ Ddewi. Ceid ef hefyd yn aml yn Llundain, a threfydd eraill Lloegr, ac yn Aberdaron yn nherfyn eithaf gwlad Lleyn, ac wedi hyny yn ngheseiliau mynyddoedd Meirionydd. Gallasai aros yn dawel yn ei gartref' clyd, yr hwn oedd yn llawnach o elfenau mwyniant bywyd, nag ydoedd y rhan fwyaf o gartrefi gweinidogion yn yr oes hono. Ond anghofiai efe ei lesâd a'i esmwythyd ein hunan, wrth geisio llesâd llaweroedd. Dysgwyliai y cynulleidfaoedd am dano, yn mhob tref, pentref, a chwm, fel am y gwlaw. Breintid cymoedd anghyspell ein gwlad yn fynych â'i weinidogaeth nerthol. Clywsom Mr. John Morris, Berth Ddu, yr hwn sydd ddiacon ffyddlon a pharchus yn yr eglwys Annibynol yn Nhre'rddol, gerllaw Corwen, yn adrodd fel adrodd fel y bu ef yn gwrando ar Mr. Williams, unwaith yn pregethu yn Nghwmeisian Ganol, ei hen gartref. Ei destun y tro hwnw ydoedd, "Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg ingc, ond âg Ysbryd y Duw byw, nid mewn llechau ceryg, eithr mewn llechau cnawdol y galon." Yr oedd ei fam enwog yn gwrando arno yn yr oedfa hono, er yn orweddiog gan lesgedd a henaint. Fel rhwng pob peth, oedd yr oedfa yn un o'r rhai mwyaf anghyffredin o effeithiol a wrandawyd erioed, ac yn un y cofir