Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byth am dani gan yr ychydig sydd eto yn aros o'r rhai oeddynt yn ei gwrando. Blwyddyn golledus i Annibyniaeth, a Chymru oll o ran hyny, oedd y flwyddyn 1831, canys ar ddydd Iau y 25ain o Awst y flwyddyn hono, pan yn Liverpool ar ei daith i gasglu at Gapel Gartside Street, Manchester, y cwympodd y Parch. David Jones, Treffynon, drwy lawr-ddrws masnachdy yn Ranleagh Street, wrth fyned i dŷ ei gyfaill Mr. Gresson, a bu farw yn mhen ychydig oriau, heb allu dywedyd ond "I know that I am accepted"—Gwn fy mod yn gymeradwy. Teimlodd Mr. Williams yn anghyffredin o herwydd marwolaeth dra sydyn a phruddaidd ei anwyl gyfaill, ac nid rhyfedd hyny, oblegid yr oedd Mr. Jones yn un o ragorolion y ddaear. Meddai ysbryd cyhoeddus iawn. Bu yn ysgrif— enydd i ganghen Swydd Fflint o Gymdeithas y Beiblau am ddeunaw mlynedd; i ganghen Gwynedd o Gymdeithas Genadol Llundain am naw mlynedd, ac Undeb Cynulleidfaol Swyddi Fflint a Dinbych naw mlynedd. Cydweithiodd ef a Mr. Williams lawer gyda phob achos daionus. Gwyddai y bobl ar wynebpryd Mr. Williams yn yr areithfa yn y Rhos y boreu Sabbath dilynol i farwolaeth Mr. Jones, a hyny cyn iddo hysbysu dim, fod rhywbeth neillduol wedi cymeryd lle. Wedi iddo roddi emyn i'w ganu, hysbysodd y gynulleidfa o'r am— gylchiad sobr, yr hyn a effeithiodd yn ddwys iawn ar yr holl dyrfa. Ond er maint y golled a'r galar