Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a deimlai, nid ymollyngodd efe, ond ymnerthodd ac ymwrolodd i gyflawni ei waith gyda mwy o egni nag erioed. Cymerai ddyddordeb yn y cynhyrfiadau gwleidyddol a gynhyrfent y deyrnas hon y blynyddoedd hyny. Yn 1833 yr ydym yn ei gael ef a'r Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair, yn tramwy drwy Drefaldwyn a Meirionydd, gan areithio yn alluog, er cynhyrfu y wlad i ymdrech dros Ryddhad y Caethion yn y West Indies. Y fath ydoedd dylanwad yr areithiau hyny ar y rhai a'u gwrandawsent, fel y teimlent eu gwaed megys yn fferu yn eu gwythienau, wrth glywed ganddynt am ddyoddefaint y caethion; ond gwawriodd dydd gogoneddus eu rhyddhad, a bu gan ein gwron ran yn nygiad hyny oddiamgylch. Pregethodd Mr. Williams yn Nghymanfa Colwyn, yr hon a gynaliwyd Gorphenaf 24ain a'r 25ain, 1833, a chafodd oedfa hynod iawn, ond gan y bydd angenrhaid arnom i gyfeirio eto, yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn, at yr oedfa hono, nid ymhelaethwn yma. Bu marwolaeth yr Hybarch. John Roberts o Lanbrynmair; yr hyn a gymerodd le ddydd Sabbath, Gorphenaf 20fed, 1834, yn achos o alar dwys iawn i wrthddrych y cofiant hwn, yn gystal ac i'r holl genedl yn gyffredinol. Aeth Mr. Williams i angladd Mr. Roberts, drwy rwystrau mawrion, ac anhawsderau lawer. Arosasent yn hwy na'r amser arferol i gychwyn angladdau yn yr ardal gan ddysgwyl am dano ef,