Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phan yr oeddynt bron wedi rhoddi i fyny bob gobaith y gallai gyrhaeddyd, o'r diwedd gwelid ef yn d'od, ac wedi iddo gyrhaedd i'r ty, cyn dweyd gair wrth neb, rhoddodd ei ben ar y bwrdd, ac ymollyngodd i wylo yn dost, am yr hwn a garai efe mor fawr. Yr oedd yr holl wasanaeth angladdol yn wir effeithio!, ond clywsom "J. R.," yn dweyd, fod gweled Mr. Williams yn wylo yn y ty yr olygfa effeithiolaf a welodd efe erioed, ac yr oedd pawb oedd yn bresenol wedi cydymollwg mewn wylofain a galar mawr am eu cyfarwyddwr galluog a diogel. Anfonodd Mr. Williams y llythyr canlynol at feibion yr Hybarch John Roberts, ar yr achlysur o farwolaeth eu hanwyl dad. Ystyriwn fod y llythyr yn cynwys rhai llinellau ydynt yn ddarluniad mor gywir o nodweddau Mr. Williams ei hun, ag ydynt fel desgrifiad o gymeriad Mr. Roberts, fel nad oes angen am i ni wneuthur unrhyw esgusawd dros ei ddodi yn y gwaith hwn: "Anwyl gyfeillion,—Un o'r pethau sydd yn rhoddi yr hyfrydwch penaf i'm meddwl ydyw gweled hiliogaeth pobl dduwiol yn dyfod i lenwi eu lle yn nhŷ yr Arglwydd. Y mae yn llawenydd mawr genyf feddwl eich bod chwi wedi eich dewis yn lle eich Parchedig dad. Yr ydych yn cael dyfod i mewn i'w lafur ef, i gael medi yr hyn a hauodd efe mewn dagrau a diwydrwydd. Mawr yw eich braint. Nid wyf yn gwybod am un caritor ar y ddaear ag y dymunwn yn fwy ei efelychu, na'r eiddo eich