Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anwyl dad, a bydd yn llawenydd mawr gan laweroedd, heblaw fi, i weled ychydig o hanes ei fywyd. Er mwyn fy mrodyr ieuainc yn y weinidogaeth ac eraill, nodaf rai o'r pethau hyny yn ei nodweddiad ag y byddai yn dda i ni eu hefelychu:—

1. Ei brif addurn oedd ei dduwioldeb—ofni pechu. Yr oedd yn gadael arogl santaidd a duwiol ar ei ol yn mhob man lle yr elai, ac ar bob cyfeillach y byddai ynddi. Yr oedd cymaint o nefolrwydd yn ei agwedd a'i ymddyddanion, fel na bu'm erioed yn ei gyfeillach heb deimlo mwy o awydd i fyw yn santaidd. Yr oedd yn iechyd i enaid gyddeithio àg ef, a mynych feddyliais mai gwyn eu byd y rhai oedd yn bwyta bara ar ei fwrdd. Ni chyfarfum â neb erioed mwy parod i gydnabod llaw yr Arglwydd yn mhob goruchwyliaeth nag ef, a mwy teimladwy o'i ymddibyniad beunyddiol ar Dduw.

Yr oedd yn dysgleirio yn fawr yn ei ostyngeiddrwydd, a'i lareidddra. Ni welais neb erioed yn cythruddo llai yn ngwyneb celwyddau a chableddau anfoneddigaidd a chwerwon. Fel Michael yr Archangel, ni oddefai ei lareidddra iddo ddysgu y gelfyddyd o gablu, ond fel y wenynen, tynai fêl o'r llysieuyn chwerwaf. Felly yr oedd yr holl gyhuddiadau anghywir a ddygwyd yn ei erbyn, a'r enwau dirmygedig a roddwyd arno, yn ei yru yn nes at Dduw, ac i weddio dros ei wrthwynebwyr. Mynych y clywais ef yn dywedyd, "Wel, os cyf-