Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfyddwn yn y nefoedd, ni a ysgydwn ddwylaw yn garedig iawn, ac fe dry ein dadleuon i ryfeddu y gras a'n dygodd yno."

3. Peth arall oedd yn llewyrchu yn rhagorol yn ei nodweddiad oedd, ei awyddfryd i wneuthur lles i eraill. Nid oedd fel llawer yn meddwl fod ei holl waith yn yr areithle, ond yn mhob ty, ac yn mhob cyfeillach yr oedd yn chwilio am gyfleustra i roi gair i mewn dros Grist er gwneuthur daioni. Y fath oedd ei ffyddlondeb yn hyn, fel yr oedd ofn ei gyfarfod ar y ffordd ar rai, am y gwyddent y dywedai yn ffyddlawn wrthynt am eu bai a'u perygl. Cydymdeimlai yn dyner iawn â'r rhai oedd mewn adfyd. Cynghorai yn dirion y rhai fyddai mewn dyryswch. Yr oedd yn barod iawn i estyn cymhorth i'r gwan yn y ffydd, ac hyfforddiai bob plentyn y cai afael arno. Darfu i laweroedd o'r cyfryw wylo eu dagrau tyneraf pan y clywsent am ei farwolaeth. Y maent yn hiraethu ar ei ol, a diau y cofiant ei gynghorion tra byddant yn y byd. Nid ymadawai o dŷ heb adael rhyw gynghor buddiol ar ei ol yno; a byddai pawb yn y ty, ac yn enwedig y plant, am ei weled yno drachefn. Gwyddom am rai gweinidogion a fuont o les mawr i'r cyhoedd, ond a esgeulusasent eu teuluoedd gartref, ond nid felly y bu Mr. Roberts. Gallesid ei anerch ef, a'r eglwys oedd yn ei dŷ.' Nid oedd na gwas morwyn nad oedd efe yn teimlo gofal am