Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu heneidiau. Yr oedd ei deulu mor barod i ymddyddan am bregethau a phethau crefydd ag oeddynt i siarad am amgylchiadau y byd hwn; oblegid ei fod ef wedi eu harfer at hyny. Llawer gwas a morwyn sydd ag achos ganddynt i fendithio Duw iddynt erioed gael y fraint o ddyfod dan ei gronglwyd.

4. Yr oedd ei ofal yn fawr am achos Crist yn gyffredinol. Nid llawer, er dyddiau Paul, allasai ddweyd yn fwy priodol—Heblaw y pethau sydd yn dygwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd—y gofal dros yr holl egiwysi.' Os oedd efe yn anghymedrol mewn dim, yn hyn yr oedd felly. Yr oedd ei ddwys ofal yn gwanhau ei natur, ac yn mynych effeithio ar ei iechyd. oedd achos ei holl frodyr yn y weinidogaeth yn agos iawn at ei galon, ac yr oedd yn ei wneuthur fel ei achos ei hun. Yr wyf yn teimlo am ei golli; oblegid fy mod wedi colli un ag oedd yn beunyddiol weddio drosof fi a'm brodyr. Nid anghofiaf byth y cynghorion dwys a gefais ganddo, ac y mae yn drwm genyf feddwl na chaf gynghor o'i enau byth mwyach.

5. Yr oedd bob amser yn wyliadwrus i ymddwyn yn ddoeth a gochelgar. Ychydig o weinidogion yn Nghymru, os neb, oedd yn fwy anwyl a pharchus gan ei eglwys gartref, a chan ei frodyr yn gyffredinol. Yr oedd ei dduwioldeb, a'i ddoethineb yn llawn wneuthur i fyny y diffyg oedd yn ei ddoniau.