Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6. Fel Duwinydd yr oedd Mr. Roberts o olygiadau cyson ac eglur ar y Beibl.

Nid oedd yn rhwymo ei gred wrth unrhyw gyfundraeth ddynol, ond wrth Air Duw yn unig. Y mae dynion yn gyffredin iawn, fel y maent yn heneiddio, yn cau eu drysau yn erbyn pob peth newydd, yn erbyn pob diwygiad; eu harwyddair yw, 'Hyn a gredais, a hyn a gredaf.' Nid oes braidd ddim yn fwy o rwystr ar ffordd rhydd-redfa gwybodaeth na'r ysbryd dilafur yma; a thyma y rheswm fod llawer o bregethwyr yn myned mor wael a diddefnydd yn eu henaint.

Nid felly yr oedd Mr. Roberts, eithr yr oedd yn dyfod yn mlaen gyda'r oes, a safodd yn un o'r rhai blaenaf ar ei rwn hyd ddiwedd ei oes. Er, dichon ei fod yn un o'r rhai olaf yn nechreuad ei dymhor, yr oedd ei feddwl yn iraidd a bras yn ei henaint. Treuliodd gryn lawer o ddiwedd ei amser ar faes dadleuaeth. Nid oedd neb yn fwy annhebyg i fyned i'r maes hwnw nag ef, eithr cafodd ei wthio iddo. Fel dadleuwr yr oedd yn deg a llednais. Yr oedd ei resymau yn eglur a grymus, ond yr oedd gwawdiaeth a chabledd islaw ei foneddigeiddrwydd Cristionogol. Efe oedd un o'r rhai cyntaf a dorodd y garw yn erbyn gorlif Antinomiaeth yr oes, a dyoddefodd erledigaeth nid bychan o herwydd hyny; ond y mae llu o ol—fyddin yn awr yn ei ddilyn a fedrant saethu at drwch y blewyn. Buasai yn dda iawn genyf pe y buasai rhyw un yn cymeryd mewn llaw y gorch-