Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyl o roddi darluniad llawnach o gymeriad Mr. Roberts nag y medraf fi wneud, er gwneuthur cyfiawnder âg ef, ac er anogaeth i'm brodyr ieuainc i rodio yn ei lwybrau, wrth weled mai duwioldeb, diwydrwydd, a phwyll, ddarfu ei wneuthur ef mor ddefnyddiol ac mor gymeradwy. A gellid crybwyll, mai dyma y prif gymhwysiadau ddylai fod mewn golwg gan eglwys wrth alw dynion ieuainc i waith mawr y weinidogaeth.

Heb y rhai hyn nid yw pob cymhwysderau era ill yn werth dim. Ond gyda'r rhai hyn gall ychydig o'r lleill wneud y tro.

Gan ddymuno eich llwydd, a hyderu yr erys ôl llafurus weinidogaeth eich duwiol dad am oesau hir yn Llanbrynmair.

 Ydwyf, anwyl gyfeillion,
 Yr eiddoch,
 William Williams.—1834." [1]

Tua'r pryd hwn penderfynodd Miss E. Williams, merch henaf ein gwrthddrych ymgymeryd â chadw Boarding School, i addysgu boneddigesau ieuainc. Y mae yn awr o'n blaen gopi o lythyr a ysgrifenwyd ganddi at Miss Owens, Tyddyncynal, gerllaw Conwy (Mrs. Griffiths, Merchlyn, wedi hyny), a hyny er's yn agos i driugain mlynedd yn ol. Yn mysg pethau eraill, crybwylla ynddo am yr ymddyddan a fuasai rhwng ei thad a'r Parch. R.

  1. Gwel Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair, tudalen 28—30.