Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands, Henryd, yn nghylch yr ysgol, ac yn ol awgrym a roddasai Mr. Rowlands ar y pryd, fod tebygrwydd y buasai Miss Owens yn hoffi myned atynt i dderbyn addysg. Bodolai cyfeillgarwch pur ac anwyl iawn cydrhwng Mr. Williams, a theulu Tyddyncynal. Yr oedd Mr. Owens yn ddiacon ffyddlon yn Henryd, ac yr oedd llawer o wreiddioldeb yn perthyn iddo. Dywedodd wrth Mr. Williams un tro, "Gallaf fi gadw seiat yn well na chwi, ond gallwch chwithau bregethu yn well na minau." Nid ydym yn gwybod a fu Mrs. Griffiths yn y Boarding School gyda Miss Williams, ai naddo. Bu Mrs. Evans, Llandegla, yn yr ysgol hon; ac y mae y tymhor hwnw byth yn un euraidd yn ei golwg. Ni waeth heb gelu mai bychander y gydnabyddiaeth a roddid i Mr. Williams am ei lafur gweinidogaethol, ydoedd un rheswm o eiddo Miss Williams dros ymgymeryd â r gwaith o gadw ysgol.

Yr oedd Mr. Williams, mewn llawer o bethau, yn mhell o flaen gweinidogion yr oes hono fel dysgawdwr ei bobl. Ond ni ddarfu iddo erioed eu dysgu i gyfranu at grefydd yn deilwng, ac oblegid hyny, nid oedd y swm mwyaf a dderbyniodd efe am ei wasanaeth gwerthfawr, ond cywilyddus o fychan. Er mwyn cario gwaith yr ysgol yn mlaen yn effeithiol, yr oedd yn angenrheidiol iddynt wrth dŷ helaethach na'r Talwrn; a symudasent i Fryntirion, Bersham. Teimlai Mr. Williams