Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

O'I YMADAWIAD O'R TALWRN HYD EI SYMUDIAD I LIVERPOOL. 1834—1836.

Y CYNWYSIAD—Mr. Williams yn parhau i deithio llawer—Ei oes ef yn un drafferthus i weinidogion gydag adeiladu addoldai newyddion—Annibynwyr y Gogledd yn edrych ato ef am gymhorth—Blinder y Parch. D. Griffith, Bethel, gydag achos Manchester—Cydymdeimlad a ffyddlondeb Mr. Williams iddo —Talu dyled capel Manchester—Parotoi at y Cydymegniad" Cyffredinol—Y Cyfarfodydd yn Ninbych a Rhaiadr-gwy—Llafur a haelioni Mr. Williams gyda'r symudiad—Ei ddylanwad daionus mewn aneddau pan ar ei deithiau pregethwrol—Ei gefnogaeth yn sicrhau llwyddiant y symudiadau yr ymgymerai efe â hwynt—Adroddiad y "Cydymegniad"—Talu £24,000 o ddyled yr enwad— Deffroad ysbrydol yn dilyn hyny yn yr eglwysi— Anfon galwad o eglwys Rhaiadr—gwy i MR. Williams—Yn cerdded "rhwng dau leidr "—Cystudd a marwolaeth Mrs. Williams—Ei Chofiant gan y Parch. T. Jones, Ministerley—Trallod dwys Mr. Williams ar ol ei briod—Teimlo awydd i symud o'r Wern—Cael ei alw i wasanaethu am Sabbath i'r Tabernacl, Liverpool—Yr eglwys hono heb weinidog ar y pryd—Holi Mr. Williams am