Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidog—Yntau yn cynyg ei hun iddynt—Rhoddi galwad iddo—Merch ieuanc o'r Wern yn wylo pan roddwyd y mater gerbron yr eglwys—Yr holl Dywysogaeth yn anfoddlon iddo symud—Arwyddo yr ardystiad dirwestol cyn symud i Liverpool—Yr ocsiwn goffi—Ei bregeth ymadawol

GAN nad oedd Mr. Williams yn ymwneud dim â'r sefydliad addysgol y soniwyd eisoes am dano, ni ddarfu i hwnw lesteirio dim yn y mesur lleiaf arno ef, yn nghyflawniad ei waith mawr a goruchel. Yr ydym yn ei gael yn y cyfnod hwn mewn teithiau mynych a phell, yn nglŷn â symudiadau mawrion a phwysig ei enwad, ac â chrefydd yn gyffredinol yn y Dywysogaeth. Oes drafferthus ac aml ei helbulon i weinidogion gydag adeiladu addoldai newyddion ydoedd oes ein gwron, a chymerodd ef gyfran helaeth iawn o'r cyfrifoldeb, y drafferth, a'r pryder oedd yn nglŷn â hyny. Edrychid ato am gymhorth gan bron holl Annibynwyr y Gogledd, yn arbenig felly yn siroedd Dinbych a Fflint; ac anfynych iawn y ceisient ei ffafr yn ofer. Gwyddis i'r Parch. D. Griffith, Bethel, fod mewn blinder mawr yn nglŷn â dyled capel Manchester. Bygythiodd y dyn oedd wedi rhoddi yr arian ar yr addoldy, y buasai yn gwerthu eiddo Mr. Griffith, os nad anfonid yr arian iddo ar unwaith. Cyfryngodd Mr. Williams, ac anfonodd lythyr at y gwr hwnw, yr hwn a welir yn nghofiant y Parch. D. Griffith, Bethel, tudal. 39