Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—rhan o'r hwn sydd fel y canlyn, I cannot see that you are under the necessity of selling Mr. D. Griffith up, except you wish to do so, as the money is not now wanted. And one would hope, in a little while, things will come better, if not, the chapel must be sold. I can say nothing else now. I am already under about £3,000 on accounts of chapels, and it is not my duty to launch any further now.

Yn ngoleuni yr uchod, gwelir mor ffyddlon a phur ydoedd Mr. Williams i frawd mewn trallod, ac mor eang ydoedd ei gydymdeimlad, ac mor fawr ydoedd ei gyfrifoldeb arianol yn achos ei enwad. Trwy gydweithrediad unol yn nglŷn â dyled capel Manchester, rhyddhawyd yr eglwys o law ei gelyn, a gallodd hithau o hyny allan wasanaethu Duw, heb ofn y ddyled a fu iddi yn boenedigaeth mor fawr, ac am amser mor faith; a chafodd Griffiths, Bethel,' yntau, wedi iddo roddi gwasgfa effeithiol i'r gwr o Gaernarfon, ei hunan yn rhydd, ac ni bu athrist mwy yn nghylch Manchester. Bu llwyddiant y cydweithrediad egniol, a'r haelioni a ddangoswyd gan weinidogion ac eglwysi yn nglŷn â'r achos a fu dan sylw, yn agoriad llygaid i'r hyn oedd yn bosibl i'r enwad ar raddfa eangach drwy gydymegniad,' er symud ymaith y ddyled drom oedd arno ar y pryd. Dylid nodi mai mewn ymddyddan a gymerodd le yn mharlwr bach' y Parch, D. Williams, Troed-