Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhiwdalar, rhyngddo ef a'r Parch. T. Jones, Llangollen, y soniwyd gyntaf am y symudiad pwysig hwnw, ac mai yno y dechreuwyd gweithio peiriant mawr y cydymegniad' ac y trefnwyd at osod i lawr y llinellau ar hyd pa rai yr ydoedd i redeg. Buwyd am gryn amser cyn perffeithio y peirianwaith i weithredu yn rheolaidd drwy yr holl enwad Ysgrifenwyd ysgrifau galluog o blaid y mudiad i'r Dysgedydd gan wŷr medrus. Cafwyd yn Nghymanfa Dinbych, yr hon a gynaliwyd yn 1832, ymddyddan ar y pwnc, a chymerwyd yno y mater i fyny yn galonog. Trefnwyd hefyd i gynal cyfarfod mewn man manteisiol i weinidogion De a Gogledd i ddyfod i ymgynghori yn nghyd, am y ffordd effeithiolafi gyrhaedd yr amcan mewn golwg. Cynaliwyd y cyfarfod hwnw yn Rhaiadr Gwy, Hydref 31ain, 1832, adroddiad o'r hwn a roddir yma fel y ceir ef yn y Dysgedydd am y flwyddyn uchod, tudalen 375.—"Cyfarfu amryw weinidogion o'r De a'r Gogledd yn Rhaiadr, i ystyried pa lwybr yw y goreu i symud y dyledion sydd ar addoldai yr Annibynwyr yn y Dywysogaeth; a chytunwyd ar amrywiol reolau, y rhai a ymddangosant eto mewn amser dyladwy. Ni welwyd mwy o arwydd undeb erioed rhwng gweinidogion gwahanol y De a'r Gogledd, a hyderir y bydd iddynt gydweithredu yn fywiog â'u gwahanol gynulleidfaoedd, ac a'u gilydd, er mwyn symud y baich gorthrwm sy'n gorbwyso ar ysgwyddau llawer o