Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidogion ac aelodau ffyddlon, nes y maent bron a llethu dano. Y mae y gweinidogion oedd yno yn bresenol wedi tanysgrifio eisoes dros saith gant o bunau, a chynwys yr addewidion a wnaed yn Ninbych; rhai yn addaw

eraill 10p., rhai 50p., ac eraill 5p.; a hyderir y bydd i eraill nad oeddynt yno, i ddilyn eu hesiampl, fel y gellir drwy hyny gymhell y cynulleidfaoedd i ddeffro at y ddyledswydd arbenig hon. Am ddau o'r gloch ddydd Mercher, pregethodd y brodyr W. Williams Caer—Am chwech narfon; a W. Griffiths, Castellnedd. o'r gloch, pregethodd y brodyr J. Griffiths, Hawen, a J. Breese, Llynlleifiad. Am ddeg o'r gloch dranoeth, pregethodd y brodyr D. Davies, Aberteifi, a W. Williams, Wern. Am ddau o'r gloch, pregethodd y brodyr S. Roberts, Llanbrynmair; C. Jones, Dolgellau; a J. Breese. Pregethodd y brodyr D. Griffith, Bethel; D. Davies, Abertawe, &c., y nos o'r blaen yn addoldai y Trefnyddion Calfinaidd, a Wesleyaidd; a'r brodyr W. Williams, Caernarfon; W. Lewis, Tredwstan; D. Davies, Aberteifi; W. Williams, Wern; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Llanfair; D. Morgan, Machynlleth; E. Evans, Abermaw; C. Jones, Dolgellau; B. Rees, Llanbadarn; a J. Evans, Beaumaris, yn yr addoldai o amgylch Rhaiadr." Ymgymerodd yr holl enwad yn galonog â'r gwaith mawr a daionus uchod, fel erbyn y blynyddoedd 1834, 1835, yr oedd y cydymegniad cyffredinol ar lawn