Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

waith, ac yn ymdeithio yn llwyddianus. Ymdaflodd Mr. Williams yn llwyr ac yn hollol i'r ymdrechfa fawr hono. Cyfranodd haner can' punt ei hun at yr amcan, a bu oddi cartref am fisoedd rhwng Llundain a lleoedd eraill, yn casglu ato. Pwy a ŵyr faint y daioni a wnaethpwyd ganddo ar y teithiau hyny, oblegid yn ychwanegol at gasglu llawer er chwyddo cyllid y drysorfa, amcanai at fod o ddylanwad dyrchafol dros Dduw yn mhob lle yr elai efe iddo. Adroddai Mrs. Jones, Shop y Gornel, Machynlleth, ddarfod iddi weled Mr. Williams a Mr. Roberts, Dinbych, yno mewn cyfarfod oedd yn dal cysylltiad â'r ymdrech dan sylw, ac arhosent yn ei chartref hi. Pan oeddynt wrth y bwrdd ar fyned i giniawa, gofynodd Mr. Williams i Mrs. Jones, yr hon nad oedd ond ieuanc iawn yr adeg hono, "Welwch chwi merch fach i, a ddeuwch chwi a dwfr ar y bwrdd i fy ymyl i, nid wyf fi am roddi tramgwydd i neb." Dro arall disgynai yn Machynlleth, a rhoddai i fyny y tro hwnw yn nhŷ Mrs. Miles. Yr oedd yn ddiwrnod gwlawog ryfeddol, ac yr oedd ei ddillad yntau wedi eu gwlychu drwyddynt. Arferai Mrs. Miles gymeryd pob gofal er ymgeleddu y pregethwyr a fyddent wedi eu maeddu gan y tywydd, ac felly yr ymddygai y tro hwnw at Mr. Williams. Wedi iddi orphen ei lanhau dywedai wrthi, gan gyfeirio at yr oedfa y noson hono, "Os byddaf wedi ymdrwsio cystal oddi mewn ag wyf oddi allan fe geir